Amdanom
Cwmni â phwyslais ar gynnig gwasanaeth Cymreig a Chymraeg yw Alaw. Rheolir y cwmni gyda chefnogaeth tîm o weithwyr llawrydd creadigol gan gynnwys cynhyrchwyr cynnwys, ffotograffwyr, dylunwyr ac ysgrifenwyr copi.
Cwmni â phwyslais ar gynnig gwasanaeth Cymreig a Chymraeg yw Alaw. Rheolir y cwmni gyda chefnogaeth tîm o weithwyr llawrydd creadigol gan gynnwys cynhyrchwyr cynnwys, ffotograffwyr, dylunwyr ac ysgrifenwyr copi.
Mae Sian yn arwain strategaeth a thwf Alaw, gan dynnu ar ei phrofiad ym meysydd newyddiaduraeth, cyfathrebu’r llywodraeth ac ymgyrchoedd creadigol. Drwy gyfuno greddf olygyddol â meddylfryd masnachol mai’n helpu cleientiaid i droi uchelgais yn gyfeiriad clir drwy syniadau creadigol. Fel cyd-sefydlydd Alaw credai Sian fod deall pobl a’r hyn sy’n bwysig iddynt yw sylfaen gwaith creadigol sy’n adeiladu brand a gwneud gwahaniaeth.
Mae Llinos yn dod â syniadau creadigol yn fyw drwy ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chynnwys. Cyn cyd-sefydlu Alaw, bu’n Brif Swyddog Tafwyl am ddeng mlynedd, gan feithrin profiad helaeth o weithio gydag artistiaid, partneriaid a chymunedau. Mae’n cyfuno greddf greadigol â dawn drefnu i greu gwaith sy’n dal sylw ac yn dod â phobl at ei gilydd, gyda cherddoriaeth, iaith a diwylliant Cymru wrth galon ei gwaith.
Owain yw Rheolwr Digwyddiadau Alaw ac mae’n gweithio ar draws prosiectau megis Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Gŵyl Sŵn, Dydd Miwsig Cymru, Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a Recordiau Sain. Mae’n cydlynu digwyddiadau ac yn trefnu ymgyrchoedd, gan weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu a chyflwyno syniadau marchnata a hyrwyddo gwreiddiol, pwrpasol a Chymreig.
Gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd, mae Lili'n mwynhau creu cynnwys a chanfod straeon. Fel ein Cydlynydd Cynnwys, mae'n sicrhau bod cynnwys yn cael ei bostio a'i gyhoeddi ar amser. Mae'n mwynhau creu cynnwys a bod yn rhan o ddigwyddiadau byw, gan helpu i ddod â phopeth at ei gilydd y tu ôl i'r llenni.