Crëwr Cynnwys
Lleoliad: Hybrid (swyddfa ar gael yng Nghaerdydd, bydd angen teithio ledled Cymru)
Oriau: Amser llawn neu ran amser (rydyn ni’n barod i drafod oriau hyblyg)
Cyflog: £32,000 (pro rata)
Contract: 6 mis gyda’r potensial iddo fod yn barhaol
Content Creator
Location: Hybrid (Office available in Cardiff, will need to travel throughout Wales)
Hours: Full or part time (happy to discuss flexible hours)
Salary: £32,000 (pro rata)
Contract: 6 months with potential to become permanent
Y Manylion
-
Asiantaeth sy’n arbenigo mewn cyfathrebu creadigol ydy Alaw, ac mae diwylliant a chymunedau yn greiddiol i’n gwaith. Rydyn ni’n creu ymgyrchoedd sy’n cysylltu pobl â’i gilydd – gan ddathlu hunaniaeth Gymreig, creadigrwydd, a straeon. Mae ein cleientiaid yn amrywio o awdurdodau lleol a chyrff twristiaeth i sefydliadau celfyddydol a phrosiectau diwylliannol, a’r rheini wedi’u lleoli ym mhob cwr o Gymru.
Yn eu plith mae: Croeso Cymru, Ymweld ag Eryri, Sain, Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Gogledd Cymru Actif, Llechi Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru
-
Rydyn ni’n chwilio am Grëwr Cynnwys creadigol a brwd i ymuno â’n tîm bach, angerddol.
Byddwch chi’n gweithio gyda’n cleientiaid i gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys difyr – o fideos byr a ffotograffiaeth i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac asedau ymgyrchoedd.
Byddwch chi’n helpu i ddod â straeon ein cleientiaid yn fyw mewn ffordd sy’n ysbrydoli ac yn teimlo’n ddilys.
-
Cynllunio, creu a golygu cynnwys difyr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac ymgyrchoedd
Gweithio’n agos gyda rheolwyr cyfrifon Alaw i ddarparu cynnwys o ansawdd gwych, a hynny’n brydlon ac yn unol â’r briff
Mynd i ddigwyddiadau ledled Cymru i dynnu ffotograffau a ffilmio er mwyn creu cynnwys gweledol
Ysgrifennu capsiynau a chopi difyr yn unol â naws llais y cleient
Helpu i amserlennu a chyhoeddi cynnwys ar wahanol blatfformau
Helpu i ddatblygu cysyniadau creadigol a syniadau ar gyfer ymgyrchoedd
-
Mae gennych chi lygad craff wrth greu deunydd gweledol, ysgrifennu ac adrodd straeon
Rydych chi’n hyderus yn saethu ac yn golygu fideos byr (Reels/TikTok) ac yn creu ffotograffiaeth
Mae gennych chi brofiad o greu cynnwys i sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol (Instagram, Facebook, TikTok, YouTube)
Rydych chi’n hyderus yn creu graffeg ar gyfer negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio Canva neu Adobe
Rydych chi’n unigolyn trefnus a dibynadwy sy’n gallu rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd
Rydych chi’n barod i gydweithio, yn gyfeillgar, ac yn gyfforddus yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
-
Amgylchedd gweithio creadigol a chefnogol sy’n ystyriol o deuluoedd
Oriau hyblyg a gweithio hybrid (mae cyd-bwysedd yn bwysig i ni)
Cyfleoedd i ddatblygu – o roi cyfeiriad creadigol i greu strategaethau ymgyrchoedd
Y cyfle i fod yn rhan o brosiectau ysbrydoledig sydd wedi’u gwreiddio yn niwylliant, llefydd a chymunedau Cymru
Llais mewn tîm bach lle bydd eich syniadau yn cael gwir ddylanwad ar ein gwaith
Y cyfle i weithio gyda brandiau a sefydliadau o bwys ledled Cymru
Cyfraniadau pensiwn. 25 diwrnod o wyliau blynyddol (+ gwyliau banc)
The Details
-
Alaw is a creative communications agency rooted in culture, place and community. We create campaigns that connect people - celebrating Welsh identity, creativity and the stories that shape our shared landscape. Our clients range from local authorities and tourism bodies to arts organisations and cultural projects across Wales.
Our clients include: Croeso Cymru, Visit Eryri, Sain, Welsh Music Prize, Cardiff Music City Festival, Gogledd Cymru Actif, Llechi Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru
-
We’re looking for a creative, proactive Content Creator to join our small and passionate team.
You’ll work with our clients to plan, create and deliver engaging content - from short-form videos and photography to social media posts and campaign assets.
You’ll help bring our clients’ stories to life in a way that feels authentic, inspiring and rooted in place.
-
Plan, capture and edit engaging content for social media, websites and campaigns
Work closely with Alaw’s account managers to deliver high-quality content on time and on brief
Attend shoots and events across Wales to gather photo/video content
Write clear, engaging captions and copy in line with each client’s tone of voice
Support with scheduling and publishing content across platforms
Help develop creative concepts and ideas for campaigns
-
You have a strong eye for visuals, composition and storytelling
You’re confident in shooting and editing short-form video (Reels/TikTok) and photography
You have experience creating content for social media channels (Instagram, Facebook, TikTok, YouTube)
You’re confident in creating graphics for social media posts in either Canva or Adobe
You’re organised and reliable, able to manage multiple projects
You’re collaborative, friendly and comfortable working directly with clients
Welsh language skills are essential
-
A creative, supportive and family-friendly working environment
Flexible hours and hybrid working (we care about balance)
Opportunities to grow - from creative direction to campaign strategy
Access to inspiring projects rooted in Welsh culture, place and community
A voice in a small team where your ideas genuinely shape our work
The chance to work with meaningful brands and organisations across Wales
Pension contributions. 25 days of annual leave (+ bank holidays)
Sut i Wneud Cais
Anfonwch eich CV, portffolio a nodyn byr yn esbonio pam y byddech chi’n hoffi gweithio gydag Alaw i hi@alaw.cymru erbyn 29/10/25.
How to Apply
Please send your CV, portfolio and a short note about why you’d like to work with Alaw to hi@alaw.cymru by 29/10/25.